Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (152)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
|
3 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 mewn perthynas â Safonau Ymddygiad (5 munud)
NDM5309 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 2 a 22, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
4 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29 a 30A mewn perthynas â Chydsyniad Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat (5 munud)
NDM5310 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21, 29 a chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 30A, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5312 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai mynd ar drywydd rhagoriaeth fod yn ganolog i unrhyw strategaeth addysg yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ar ôl ‘Yn credu y dylai’ rhoi ‘torri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad a’
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ar ôl ‘rhagoriaeth’ rhoi ‘i bawb’ |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5311 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i weithredu'r integreiddio hwn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd, ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y rhwymedigaeth i gefnogi pobl mewn angen;
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar wahân i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei Adroddiad Cam 1.
Gosodwyd Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cyfleoedd sydd wedi codi yn ystod yr ystyriaeth o'r Bil hwn i archwilio’r posibiliadau o ran integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy:
a) cryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth;
b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn hybu dewisiadau gwasanaeth yng nghyswllt taliadau uniongyrchol; ac
c) symleiddio’r ffordd y caiff gwybodaeth ei darparu i gleifion, eu teuluoedd ac i ddefnyddwyr gwasanaeth. |
7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder:
a) bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU; a
b) bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.
2. Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:
a) bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu gwaith TGCh;
b) bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband services in Wales’, yn mynegi pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau araf band eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau lleol ar draul yr economi leol;
c) bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a
d) bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd gwledig.
3. Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau;
b) archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;
c) archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy fynediad gwell i wasanaethau digidol; a
d) ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.
Mae adroddiad Estyn ar gael yma:
Mae Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar gael yma:
http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201213/cmselect/cmwelaf/580/58002.htm
Mae adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gael yma:
http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmselect/cmenvfru/602/602.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 2c newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
sicrhau, yn ystod y broses o gyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw mewn eiddo nad yw’n gymwys i’w gysylltu yn cael gwybod hynny mewn modd amserol; |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 8 Hydref 2013